Kids in Museums logo

Kids in Museums

Course Images

Working in partnership with ALN families (Wales) / Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ADY (Cymru)

Working in partnership with ALN families (Wales) / Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ADY (Cymru)

Highlights

  • Delivered Online

  • 1 hour 30 minutes

Description

Working in partnership with ALN families (Wales)

Monday 1 December, 10-11.30am

Do you want to build your confidence in working in partnership with families with Additional Learning Needs (ALN) to improve provision for them at your museum?

About this training

Approximately one in five learners in Wales has Additional Learning Needs (ALN) and adding non-disabled siblings to that number will increase this potential audience significantly. Just knowing this is a powerful advocacy tool to make a business case for ALN inclusion in your museum. Working in partnership with ALN families is a great way to ensure this work is relevant, effective and meaningful.

In this session, SEND in Museums* Consultant Sam Bowen will explore ways to work in partnership with ALN families, drawing on her own professional museum learning knowledge and lived experience as a SEND/ALN parent.

Sam will be joined by Zoe Driscoll, from Cyfarthfa Castle Museum and Art Gallery, who will talk about how their partnership with Spectrum Support Hub led to changes in their provision for families with additional needs.

In this session, we will:

• think about areas of your provision you could improve through working with ALN families,

• find out how to reach out to ALN families that are local to your museum,

• explore a range of examples of museum partnerships with ALN families to inspire your own work.

Take a look at the full schedule.

This training event will be delivered virtually on Zoom over one and a half hours. This session will be delivered in English with bilingual slides, with the option to provide a Welsh language interpreter.

Generously supported by the Welsh Government.

*SEND stands for Special Educational Needs and Disabilities – this is the acronym used in England and is equivalent to ALN in Wales.

Who should attend?

This training is aimed at staff at museums, galleries and heritage sites who are interested in making their organisations more welcoming to ALN families. This training webinar is for staff and volunteers from Welsh museums only.

Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ADY (Cymru)

Dydd Llun 1 Rhagfyr 10-11.30am

Hoffech chi fod yn fwy hyderus yn eich gwaith mewn partneriaeth â theuluoedd gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) er mwyn gwella’r ddarpariaeth iddyn nhw yn eich amgueddfa?

Gair am yr hyfforddiant hwn

Mae Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gan oddeutu un ymhob pump o ddysgwr yng Nghymru, ac os byddwch yn ychwanegu brodyr neu chwiorydd nad ydynt yn anabl at y nifer yma, bydd hyn yn cynyddu eich gynulleidfa bosibl yn sylweddol. Mae gwybod hyn yn help mawr i’ch dadl fusnes os ydych eisiau gwthio am gynhwysiant ADY yn eich amgueddfa. Mae gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ADY yn ffordd wych o sicrhau bod y gwaith hwn yn berthnasol, effeithiol ac ystyriol.

Yn y sesiwn hon, bydd Ymgynghorydd SEND in Museums* Sam Bowen yn archwilio ffyrdd o weithio mewn partneriaeth â theuluoedd ADY gan ddefnyddio ei gwybodaeth ddysgu proffesiynol ei hun am amgueddfeydd a’i phrofiad byw fel rhiant AAAA/ADY.

Bydd Zoe Driscoll o Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa yn ymuno â Sam i siarad am y ffordd y mae eu partneriaeth gyda Chanolfan Gymorth Spectrum yn arwain at newidiadau yn eu darpariaeth i deuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol.

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

• meddwl am feysydd o’ch darpariaeth y gallech eu gwella drwy weithio gyda theuluoedd ADY,

• darganfod sut i estyn allan at deuluoedd ADY sy’n lleol i’ch amgueddfa,

• archwilio enghreifftiau amrywiol o bartneriaethau amgueddfeydd gyda theuluoedd ADY i ysbrydoli eich gwaith eich hun.

Edrychwch ar yr amserlen lawn.

Bydd y digwyddiad hyfforddi yma’n digwydd ar-lein ar Zoom dros awr a hanner. Byddwn yn darparu’r sesiwn hon yn Saesneg gyda sleidiau dwyieithog, a’r opsiwn i gael cyfieithydd Cymraeg.

Cefnogir hyn yn hael gan Lywodraeth Cymru.

*Mae SEND yn golygu Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau – dyma’r acronym a ddefnyddir yn Lloegr ac mae’n gyfatebol ag ADY yng Nghymru.

Pwy ddylai fynychu?

Mae’r hyfforddiant hwn wedi ei fwriadu ar gyfer staff mewn amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth sydd â diddordeb mewn gwneud eu sefydliadau’n fwy croesawgar i deuluoedd ADY. Mae’r gweminar hyfforddi hwn i staff a gwirfoddolwyr o amgueddfeydd Cymru yn unig.

Dates

  • to
    35 spaces left
    Delivered Online
    Free

Reviews