Kids in Museums logo

Kids in Museums

Course Images

Hyfforddiant mewn hanfodion blaen tŷ: Croesawu teuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol

Hyfforddiant mewn hanfodion blaen tŷ: Croesawu teuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol

Highlights

  • On-Demand workshop

  • 1 hour 30 minutes

  • All levels

Description

Hyfforddiant mewn hanfodion blaen tŷ: Croesawu teuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol

Mewn ymchwil i ALVA gan Baker Richards yn 2025, canfuwyd bod 41% o deuluoedd oedd yn ymweld ag atyniadau, fel amgueddfeydd, yn cynnwys plentyn gydag anghenion addysgol arbennig. Roedd astudiaeth yn 2019 gan Ecclesiastical yn arolygu teuluoedd gydag anghenion ychwanegol i ofyn am eu profiadau o ymweld ag amgueddfeydd, cestyll a safleoedd treftadaeth. Dywedodd 42% o rieni oedd â phlant gydag anghenion ychwanegol bod staff neu ymwelwyr yn anghyfeillgar neu’n gwneud iddynt deimlo’n anghyfforddus.

Bydd y cwrs yma’n sicrhau bod eich amgueddfa’n osgoi dod yn rhan o’r ffigur hwn. Bydd yn cynnig syniadau i chi ryngweithio mewn ffordd hwyliog a hygyrch gyda theuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol.

Mae’r cwrs wedi’i rannu’n bum sesiwn. Mae pob sesiwn yn cynnwys nifer o ffilmiau byr, sy’n cymryd tua deg munud i’w gwylio. Mae gweithgareddau gwaith cartref i’w gwneud hefyd i helpu i gefnogi eich dysgu. Bydd angen tua 1-2 awr arnoch chi i gwblhau’r cwrs. Does dim rhaid i chi ei gwblhau mewn un eisteddiad. Gallwch fynd i mewn i’r cwrs cynifer o weithiau ag y dymunwch.

Mae’r cwrs yn ymdrin â’r meysydd nesaf:

  • Sesiwn un – dysgu pam mae ymwelwyr sy’n deuluoedd gydag anghenion ychwanegol yn rhan bwysig o’ch cynulleidfa.

  • Sesiwn dau – dod i ddeall y prif bryderon sydd gan deuluoedd ag anghenion ychwanegol am ymweld ag amgueddfeydd.

  • Sesiwn tri – datblygu dealltwriaeth o sut i gefnogi teuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol ar eich safle.

  • Sesiwn pedwar – dysgu sut i ymgysylltu’n hyderus â theuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol.

  • Sesiwn pump (opsiynol) – meddwl am newidiadau y gallech eu gwneud yn eich amgueddfa i wella’r ddarpariaeth i deuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol.

Pwy ddylai gymryd y cwrs?

Mae’r cwrs hwn wedi ei fwriadu ar gyfer staff a gwirfoddolwyr sy’n wynebu’r cyhoedd, yn cynnwys rheolwyr mewn amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth sydd â diddordeb mewn gwneud eu sefydliadau’n fwy croesawgar i deuluoedd AAAA.

Mae Kids in Museums yn darparu’r cwrs hwn mewn partneriaeth â Sam Bowen. Mae Sam yn ymgynghorydd amgueddfeydd, orielau a threftadaeth sy’n arbenigo mewn cynhwysiant plant a phobl ifanc gydag Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau (AAAA). Mae gwaith Sam wedi ei seilio ar 25 mlynedd o brofiad proffesiynol mewn amgueddfeydd ochr yn ochr â phrofiad byw o fod yn rhiant AAAA.

Cefnogir y cwrs gydag arian gan Arts Council England a Llywodraeth Cymru.

workshop Content

6 sections26 lessons
Cyflwyniad1 lessons
  1. 1Cyflwyniad a chyfarwyddiadau’r cwrs
Sesiwn un : dysgu pam mae ymwelwyr sy’n deuluoedd gydag anghenion ychwanegol yn rhan bwysig o’ch cynulleidfa7 lessons
  1. 1Adran un: Cyflwyniad a gwybodaeth gefndirol
  2. 2Adran dau: Y gyfraith a deddfwriaeth
  3. 3Adran tri: Ystadegau allweddol
  4. 4Adran pedwar: Cynhwysiant ac effaith
  5. 5Adran pump: Pam mae teuluoedd gydag anghenion ychwanegol yn ymweld ag amgueddfeydd
  6. 6Adran chwech: Y ‘Bunt Borffor’
  7. 7Adran saith: Crynodeb a gwaith cartref
Sesiwn dau: dod i ddeall y prif bryderon sydd gan deuluoedd ag anghenion ychwanegol am ymweld ag amgueddfeydd4 lessons
  1. 1Adran un: Cyflwyniad i deuluoedd gydag anghenion ychwanegol ac ymweliadau ag amgueddfeydd
  2. 2Adran dau: Rhwystrau mewn amgueddfeydd
  3. 3Adran tri: Croesawu teuluoedd gydag anghenion ychwanegol
  4. 4Adran pedwar: Crynodeb a gwaith cartref
Sesiwn tri: datblygu dealltwriaeth o sut i gefnogi teuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol ar eich safle5 lessons
  1. 1Adran un: Cyflwyniad i anawsterau prosesu synhwyraidd
  2. 2Adran dau: Beth yw colli arni?
  3. 3Adran tri: Cefnogi teuluoedd pan fydd rhywun yn colli arni
  4. 4Adran pedwar: Cefnogi plant gydag anawsterau prosesu synhwyraidd
  5. 5Adran pump: Crynodeb a gwaith cartref
Sesiwn pedwar: dysgu sut i ymgysylltu’n hyderus â theuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol5 lessons
  1. 1Adran un: Cyflwyniad i drin pobl fel plant a sut i osgoi hynny
  2. 2Adran dau: Rhyngweithio chwareus cynhwysol
  3. 3Adran tri: Cymryd rhyngweithio chwareus ymhellach
  4. 4Adran pedwar: Croeso cynnes a ffarwelio da
  5. 5Adran pump: Crynodeb a gwaith cartref
Sesiwn pump (opsiynol): meddwl am newidiadau y gallech eu gwneud yn eich amgueddfa i wella’r ddarpariaeth i deuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol4 lessons
  1. 1Adran un: Cyflwyniad i ddechrau newid yn eich amgueddfa
  2. 2Adran dau: Dod yn hyrwyddwr i deuluoedd gydag anghenion ychwanegol yn eich amgueddfa
  3. 3Adran tri: Ymwreiddio’r gwaith yma
  4. 4Adran pedwar: Cwis diwedd y cwrs

Reviews